Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
MORFUDD A'R DELYN.

DA dyly Gwen gymhendwyll
Delyn ariant, tant y twyll;
Henw it fydd tra fo dydd dyn,
Hudoles yr hoew delyn;
Enwog y'th wnair, gair gyrdd-bwyll,
Armes, telynores twyll.

Y delyn a adeilwyd
O radd nwyf; aur o ddyn wyd.
Ei llorf a'm pair yn llwyr farw,
O hud gwir, ai o hoed garw;
A'i chwr y sydd, nid gwŷdd gwyllt,
O ffurf gelfyddyd fferyllt;
Mae arni nadd o radd rus,
Ac ysgorth celi, ac esgus;
Twyll ebillion sy i honno,
A thruth, a gweniaith, a thro.

Wi! o'r wen-gerdd, wawr win-goeth,
A fedri di fydr doeth?
Trech yw, meddir, crefft hir hud,
Liw gwylan befr, na golud;
Deulafn o aur a dalant,
Y dwylaw tau yn dal y tant.

Cymer frad nifer, bryd Nyf,
Ganwyll gwlad Gamber, gennyf,
Law-rydd ffawd lariaidd pharch,
Le'r wyl gennyf, liw'r alarch.