Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
TAITH Y BWA BACH.

YN RHYW SWYDDOG GYDA RHYS WGAN I FFRAINC,
A 300 O WYR GANDDO, TAN EDWARD III.,

A DYMUNIAD EI FODDI.

MAB Gwan, mae begegyr
Gyda chwi, O gadwych wŷr,
Yn elyn di-anwylyd
I fardd bun, ac i feirdd byd.
Un llygad, cymyniad cawdd,
Ag un-clust, yw a'r ganclawdd.

Od a a'i enaid, baid banw,
I'r lwyd-long wyllt erlid-lanw,
Llonydd ni hir gydfydd hi,
Llun ei hwyl yn llawn heli;
Gwisg ei phen fo'r ffrwd wen wawl,
Gwasgwynes y waisg ganawl;
Ni cherdda, ni hwylia hi,
Tri-chanddyn a'r trwch ynddi;
Gwthier ef, gwthr afanc,
Dros y bwrdd ar draws y banc;
Y don hael, adain heli,
Y tâl a ddylwn i ti;
Y sawl angeu-fagl y sydd,
Hynny fo ei ddihenydd.

Diddan im ei drigian draw
Deuddeg anhawdd-fyd iddaw.
Cyd-achwyn fi a'r fwyn-ferch,
Iechyd in, a chyd-annerch,
Cyd adde, cyd weddio,
o'i ol fyth na'r dêl y fo.

Adre y don', a aeth o honyn',
Gyda Duw, i gyd ond un.