Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
NODDED IFOR

FUN a elwir f'anwyl,
Seirian wyd, fy seren wyl;
Tyred i'r llwyn, mwyn yw Mai,
Dioerder yw'r clyd irdai.
'Y myd wen, mi yw dy wr,
A'th was, i’th burlas barlwr;
Dy wely yw'r llawr deiliog,
Dy organ fydd cân côg;
Dy loches cynnes yw'r coed,
Tegan wyt ti mewn tewgoed
Alth drws, ail Fenws, feinir,
Feddal wisg o'r haf-ddail ir.

Ninnau dan rin ym min môr,
Hoew defyll, yng nghoed Ifor,
Gwell yma yw'n noddfa ni
Ar Daf, na goror Dyfi;
Dilys ni wyr y dulwyd,
Oer wên, fan o fyd yr wyd.
Deuwell yw'n llys blodeuog,
Ucho ny coed, a chân côg,
Na gwae-dwrf, a hen gadach,
Yn oer drigfa'r Bwa Bach.

Hawddamor beunydd yma
A gawn, gyda phob dawn da,
Llwyn is twyn yn llawn ei stor,
A lles hefyd llys Ifor.
Ifor yw trysor traserch,
A rhyswr, a sawdwr serch ;
A gelyn blin, heb gyfrinach,
Yw'r gwrda i'r Bwa Bach.