Tudalen:Gwaith Dafydd ap Gwilym.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
MARWNAD GRUFFYDD GRYG.

Bu ymryson rhwng Dafydd ab Gwilym a Gruffydd Gryg.
Nid oedd yn anghoeth, fel ymryson Dafydd ab Edmwnd a
Guto'r Glyn ychydig wedyn, ond yr oedd yn chwerw. Cyn
hyn yr oedd Rhys Meigen, meddir, wedi syrthio yn farw gan
fin awen angeuol Dafydd.
Ebe Gruffydd Gryg:—

"LLEW ydwyf cryf, llo ydwyt,
Cyw'r eryr wyf, cyw'r iar wyt;
Adewr ydwyf, a diriaid,
A rhwysg bonheddig yn rhaid;
A cherdd bêr sydd gennyf,
A Chryg y'm galwant, a chryf;
Ac ni'm dawr, newyddfawr nwyf,
Byth yn ol beth a wnelwyf;
Athrawaf, heb ethrowyn,
A min fy nghledd dannedd dyn;
Medra bwyll, a mydr o ben,
'Mogel! nid wyf Rys Meigen."


Dywedodd rhywun wrth Gruffydd fod Dafydd wedi marw,
ac yn huno yn Ystrad Fflur. Agalarodd Gruffydd yn ddwys
am dano, gan ddewis ei ogan ef o flaen mawl ereill. Dywedodd
rhywun wrth Dafydd fod Gruffyth Gryg yn huno yn Llan
Faes. A chanodd Dafydd iddo fel hyn,—

TRIST oedd ddwyn, trais cynhwynawl,
Tlws o'n mysg, Taliesin mawl;
Trwst eres, nid trais di-arw,
Trwm oer fel y try y marw.

Treiwyd gwawd, nid rhaid gwadu,
Tros fyd gwladeiddia trais fu;
Tros fy ngran ledchwelan lif
Try deigr am wr tra digrif,
Gruffydd, hyawdl ei awdlef,
Gryg ddoeth, myn y Grog oedd ef.