Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Dewi Wyn.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ow gau y deg ei dull dan dywyll do.
Dwy geulan dew a gudd ei grudd mewn gro.

Yr athro clodfawr, oedd ar goedd mor gu,
A drengodd, Ow, rhwng dwylaw'r angau du;
Trosglwyddo'r ysgolhaig a'i rwysg i lawr,
Mewn arch dan dywarch do, mae'n huno'n awr.

Daw'r aerwr, er peryglon lawer pryd,
O'r drin fawr adre'n fyw drwy bob rhyw byd;
Daw angau mewn llid traws i'r man lle trig,
Terfyna'r einioes ferr â'i ddager ddig.

Pa filwr balch ei ben, neu gadpen gwiw,
Aeth drwy farwolaeth drom yn ffrom ei ffriw?
Pa ieuanc was di-rus, os daw i'w rwyd,
Na chryn o'i draed i'w ben, fel aethnen lwyd?

Ni chair ar dir na môr, un doctor da,
I un mewn marwol ing, a'i bling o'i bla;
Ni wŷs na llŷs na llech yn drech na'i dranc,
Ni thorrai'r byd yn un ei wŷn a'i wanc.

Gan hynny, dyma'r ennyd imi roi
Fy mryd a'm bwriad dwys i ymbartoi;
Ar lwybr anfarwol wlad, cyn treiglad trwm,
Crist imi'n gyfaill hael mewn gaeaf llwm.

Efe a drechodd dras galanas lu,
Fe lamodd yn nghadwynau angau du;
Gan dynnu'r colyn cas, a'r glas hir gledd,
Oedd gan y garw aerwr hagr ei wedd.

Dwg lwch ei briod glau ryw forau fydd,
O'r dyffryn sy'n ei dal, i'r ardal rydd;
Heb ofni angau byth, a dilyth dôn,
I gyd-foliannu mwy y dwyfawl Ion.

Rhagfyr 11, 1805.