Tudalen:Gwaith Edward Richard.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

trwy ysgolion Caerfyrddin a Henffordd i Goleg yr Iesu pan yn bedair ar bymtheg oed. Dilynodd Edward ei gamrau cyntaf; aeth i Gaer— fyrddin, a bu hefyd dan addysg clerigwr ysgolheigaidd ym Mhontygiddo, ger Llanarth. Gwenid arno gan deuluoedd y fro, gwyr call Mabwys a'r Trawsgoed, Ystrad Fflur a Ffos y Bleiddiaid, ac yn enwedig merch Nanteos a briododd Syr Herbert Lloyd o Ffynnon Bedr.

Yn 1734 neu 1735 dechreuodd Edward Richard gadw ysgol yn Ystrad Meurig. Dylifodd disgyblion ato. Teimlodd yntau na wyddai ddigon. Gadawodd ei ysgol, ac ail ddechreuodd ymroddi i ddysgu ychwaneg ei hun. Dyma weithred dynnodd sylw at ei gydwybodolrwydd a'i ostyngeiddrwydd, ac nid a'n angof yn hanes addysg Cymru. Yn 1746 ail ddechreuwyd yr ysgol, a rhoddodd yr athro ei fywyd, ei athrylith, ei ynni, a'i foddion,—iddi hi a'i llyfrgell. Llafur, diwydrwydd, a bod yn atebol i'r Hollwybodol—dyna fri Ystrad Meurig.

Bu Edward Richard farw Mawrth 4, 1777, a chladdwyd ef yn eglwys Ystrad Meurig. Mae ei ysgol a'i lyfrgell eto'n fyw.

Ond dylanwad ei fywyd serchog a phur sy'n byw gryfaf. Gwelodd angen plant Cymru,— ysgol fyw a llyfrgell ynddi.

A byw iawn yw ei ganeuon melodaidd, ar yr hoff fesur tri tharawiad. Eu neges fu cadw naturioldeb yn awen Cymru, er pan argraffwyd hwy'n llawn gan J. Evans, yn Heol y Prior, Caerfyrddin, yn 1803. Ei rodd gymun i Gymru oedd ysgol, llyfrgell, a phedair cân.

OWEN EDWARDS.