GRUFFYDD.
Y ddafad ddu gyrnig, gei'n lân yn galennig,
(Cydymaith caredig yw Meurig i mi)
O'r hwrdd sydd ym Mrwyno, mae'n gyfeb 'rwy'n cofio,
Dwg honno yn rhwydd eto, un rhodd iti.
MEURIG.
Mae gennyf bål newydd, was diddan, er ys
dauddydd,
Un graffus wen, Gruffydd, a hylwydd yw hi ;
Danfonaf hon heno i'th dy, o waith Deio,[1]
Pan dreulio, mae'n addo min iddi.
GRUFFYDD.
Mae'n bwrw yng Nghwmberwyn, a'r cysgod yn estyn,
Gwna heno fy mwthyn yn derfyn dy daith,
Cei fara a chawl erfin[2] iachusol, a chosyn,
A 'menyn o'r enwyn, ar unwaith.
MEURIG.
Gwell cyngor rhagorol, na maeddu'r heneiddiol,
Ond un peth dewisol. swydd rasol sydd raid;
Gofalwn am hwnnw, ni ŵyr pridd a lludw.
Y dydd y bo galw bugeiliaid.
EDWARD RICHARD A'I CANT.
Ystrad Meurig, 1 Ionawr, 1776.