Tudalen:Gwaith Edward Richard.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd

—————————————

 


ANWYD Edward Richard ym mhentref bychan Ystrad Meurig, Ceredigion, ym Mawrth 1714. Saif y lle ar gwrr yr ucheldiroedd eang sy'n ymestyn rhwng aberoedd cyntaf afon Teifi a rhai afon Towy, a threm ar y rhai hynny geir yn y bugeilgerddi.

Dinod a distadl oedd y cartref. Dilledydd oedd y tad, a chadwai'r fam westy bychan. Ond yr oedd yno ddau nodwedd cartref mynyddig yng Nghymru. Yr oedd y fam yn garedig a hunan-aberthol, ac mewn anwyldeb y gelwid hi'n hen Wenllian neu'n fodryb Gwen; a hi yw arwres y fugeilgerdd,—un borthai'r trafferthus, y gwael, a'r anhwylus. Yr oedd yno gred mewn addysg hefyd, a gwelai gwladwr mewn lle mor anghysbell lwybr hyffordd i un o'i feibion o leiaf gyrraedd safleoedd uchel dysg a defnyddioldeb. Ni fu erioed adeg yng Nghymru, o ddyddiau Gerald Gymro i ddyddiau Edward Richard a Gwallter Mechain, nas gallai Cymro athrylithgar ac egniol gael pen llwybr i ysgolion a cholegau dysg. Sonnir llawer yn y dyddiau hyn am sicrhau llwybr i'r bachgen athrylithgar. Ond ni fu ef erioed heb ei lwybr, a hwyrach y cai well chware teg yn nyddiau anhawsterau nag yn y dyddiau hyn.

Yr oedd y brawd hynaf, Abraham, wedi mynd