Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Newidio cân, enaid cu,
Monwysion am un Iesu.
Clywed llef y côr nefawl;
Gwyn dy fyd! hyfryd dy hawl!
Lleisiau mawrgerth lleismeirgerdd,
Côr o saint cywraint eu cerdd,
Cu eu hodlau, cyhydlef,
Gwynion delynorion nef.
Can-llef dwsmel tra melys,
Fal gwin, ar bob ewin bys.
Dedwydd o enaid ydwyi!
Llaw Dduw a'n dyco lle 'dd wyt!
A'n hannedd, da iawn honno,
Amen, yn nef wen a fo!

[At Richard Morris, Rhag. 18, 1752.]

MI glywais fyned o Dduw â'ch mam; a saeth I'm calon oedd y newydd. Da iawn i laweroedd a fu hi yn ei hamser, ac ym mysg eraill, i minnau hefyd pan oeddwn yn blentyn. Hoff iawn fyddai gennyf redeg ar brydnawn Sadwrn o ysgol Llan Allgo i Bentref Eriannell, ac yno y byddwn yn sicr o gael fy llawn hwde ar fwyta brechdanau o fel, triagl, neu ymenyn, neu 'r un a fynnwn o'r tri rhyw; papur i wneud fy nhasg, ac amryw neges arall, a cheiniog yn fy mhoced i fyned adref, ac anferth siars, wrth ymadael, i ddysgu fy llyfr yn dda; a phwy bynnag a fyddai yn y byd, y ceid rhyw ddydd fy ngweled yn glamp o berson. Poed gwir a fo y gair; ac nid yw yn anhebyg gan weled o Dduw yn dda ffynnu ganddi adael meibion o'r un meddwl â hi ar ei hol. Duw fo da wrth ei meibion! Dacw i chwi y tu draw i'r ddalen ryw fath ar "gywydd

o goffadwriaeth" am dani. Da y gwn na ddichon