Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Goronwy Owen Cyf I.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn mha le bynnag y byddwn, ond cadw o honof yr hen gyfeillach ar droed. Mae o yn wr mawr iawn gyda Earl of Powys, Lord Herbert gynt, Sir Orlando Bridgman, Esgob Landaff, ac aneirif o'r gwŷr mwyaf yn y deyrnas; ond y mae yn awr yn bur henaidd ac oedranus, yn nghylch pump a thriugain, neu ddeg a thriugain, o leiaf; ond fallai Dduw iddo fyw ennyd eto er fy mwyn i. Nid rhaid i chwi ymgenyd mo hyn wrth y Llew, rhag iddo ddifrawu o'm plegid, ac felly i minnau golli 'r cyfle o ddyfod fyth i Fon. Ond y mae 'n debyg ei fod yn gwybod eisoes; oblegid yn ddiweddar, pan oedd Bodfuan yn Lleyn wedi marw, mi ddymunais ar Mr Richard Morris fyned, yn enw Mr. Lee a minnau, at Esgob Llandaff i ddeisyf arno ofyn y lle hwnnw imi gan ei frawd esgob o Fangor. Pa sut a fu rhyngddynt nis gwn i, ac nis gwaeth gennyf; ond mi gollais yr afael y tro hwnnw. Ond y mae Mr. Morris o'r Navy Office yn dywedyd addo o Esgob Bangor ynteu wrtho ef, y cofiai am danaf ryw dro neu gilydd, pe fai goel ar esgob fwy nag arall. Nis gwn i pa fyd a'r ddaw; ond hyn sydd sier gennyf, fod yr un nefol Ragluniaeth ag am porthodd hyd yn hyn, yn abl i'm diwallu rhagllaw; a pha bryd bynnag y digwydda imi seithug, fod Duw yn gweled mai rhywbeth arall sydd oreu er fy lles.

GRO. DDU O FON.