wedent harddwch yn y byd i'm cywydd i. Ac, am a welais, nad oedd Hector, a blaenoriaid, a phendefigion Troia fawr, ddim gwell. Pius Eneas ynteu, er maint o glod a roe Virgil iddo am ei ddwyfolder, ni choeliaf nad y gwaethaf oedd o genedl Troia, wrth ei waith yn dianc oddiyno yn lladradaidd, heb wybod i'w wraig; ar hyder, mae 'n debyg, taro wrth ryw globen arall i'w ganlyn. A pheth mae'r cast a wnaeth y diffeithwr dauwynebog à Dido druan? Ai gwiw disgwyl ynteu ar ffalswr fel hwnnw feddwl am Ddydd y Farn? Ond o ddifrif, nid rhyfedd; oblegid pan oeddwn yn gwneuthur y cywyddau, nis gwn edrych o honof unwaith yn Homer na Virgil, ond yn y ddau Destament yn fynych. Dacw Gywydd y Farn" fel y mae, a nodau arno gorau a fedrais i eu casglu, wedi myned it Allt Fadawg i edrych beth a dalo, ac oddiyno fe ddaw atoch chwithau i Lundain o nerth y carnau, os caiff gynhwysiad o dan law Llywelyn; ac onide ni wiw mo 'i ddisgwyl. Ac os bydd hwnnw 'n boddio, fe gaiff Bonedd yr Awen" ynteu ei arlwyo 'n yr un modd, a'i yrru i chwi allan o law. Os rhaid dywedyd y gwir, chwi a gawsech y ddau yn llawer cynt, oni buasai i Mr. Vaughan o Gorsygedol, yr hwn, pan oedd yma yn nechreu Mis Medi, a ddywaid wrthyf, trwy ofyn o honof iddo, nad gweddus oedd i mi ysgrifennu nodau ar fy ngwaith fy hun.
Gwych o'r newydd a glywaf gennych ynghylch larll Powys. Duw a dalo 'n gan-plyg í chwi oll drosof. Nid oes dim a ofynno yr iarll, gan nag esgob na nemawr o undyn arall, na chaiff yn rhwydd; a gresyn gofyn o honaw ryw waelbeth.