Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tlawd neu gyfoethog, yn ol mesur ei ffyddlondeb i egwyddorion uchel, ei hufudd-dod i lais dyledswydd amlwg, ei gwroldeb i faentumio iawnderau naturiol a thragwyddol dyn, ei sel i gyhoeddi'r genadwri roddodd Duw iddi i'w thraethu."

Ni fu Gwilym Marles erioed yn gryf iawn o gorff; amharodd ei iechyd dan bwys y llafur diorffwys. Cyflymodd y troad allan gamrau angau tuag ato. Ofer y teithiodd i'r Alban ac i'r môr i chwilio am adferiad. Rhoddodd ei ysgol i fyny, yna ei ddiadell erlidiedig. Rhagfyr 11, 1879, hunodd yn esmwyth, gan ffarwelio a phoen a gofid am byth. Rhoddwyd ef i orwedd ger ei gapel newydd, capel erys i gofio am gydymdeimlad Cymru gyfan âg ef.

Daw ei fywy pur, ei amcanion uchel, hoffusrwydd ei ysbryd addfwyn, dedwyddwch a phrudd-der cysegredig ei fywyd, ei sel dros y gwir a thros y werin, yn amlwg i'r darllenydd wrth ddarllen y gyfrol hon.

Yr wyf yn ddiolchgar iawn i ferch Gwilym Marles, Miss Marles Thomas, am bob rhwyddineb i gyhoeddi; i'w frawd, Mr. T. Thomas, 185, Aldersgate St., Llundain, am hanes bore ei oes; i Mr. E. B. Morris, Llanbedr, am amryw ganeuon; ac yn enwedig ir Parch. R. Jenkin Jones, M. A., Aberdâr, oddiwrth yr hwn y cefais bron bopeth sydd yn y gyfrol. Nid y peth lleiaf ym mywyd llafurus Mr. Jones, ac yn ei wasanaeth amhrisiadwy i lenyddiaeth Cymru, yw galw sylw Cymru at fywyd prydferth ei hen gyfaill.

OWEN M. EDWARDS.

Rhydychen, Mehefin 26, 1905.