Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hen Lwnc Destyn Cymreig.

"I ARAD A DAFAD A LLONG."

"I ARAD a dafad a llong!"
Dewch fechgyn, a drachtiwch y medd!
Heb arad gordyfid â chwynn
Y ddaear, nes byddai yn fedd
I'r cynnyrch o yd a phob grawn
Ddug lawnder i'r hwsmon a'i dŷ,
A chysur i balas a bwth;
Dewch, fechgyn, a drachtiwch yn hy.

"I arad a dafad a llong!"
Ein llethri gan ddefaid ac ŵyn
Y gwanwyn a frithir mor dlws,—:
Lliosog yw teulu pob twyn;
Y ddafad ni omedd ei chnu:,
Sy lawer cynhesach na'r llin;
Ein byrddau a hyrdda â chig,
Sy felus a moethus i'r min.

"I arad a dafad a llong!".
Anhygyrch fa'i dyfnffyrdd yr aig,
Heb gastell ehelaeth a chlyd,
A muriau galeted a'r graig;
Ffrwd masnach ni redai ymlaen,
Gwareiddiad a wylai yn lli,
Ni chlymai brawdgarwch y byd
Heb longau—dewch, yfwch yn ffri !

“I arad a dafad a llong !"
I'r tri ar wahan a chytun;
Doed cenedl y trioedd yn fyw
I yfed i'w thrioedd ei hun;
Dewch, fechgyn y llechwedd a'r ddôl,
A gwŷr y mynyddau un wedd,
A chwi ar dueddau y môr,—
Dewch, fechgyn, a drachtiwch y medd!