Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BUGEILIAID SIR ABERTEIFI.

GWLAD y cloddiau moelion a'r cloddiau cerrig yw rhan fawr o Geredigion. Nid am ei bod na rhy uchel na rhy ddiffrwyth i goed dyfu, ond yn debyg am na chawsant erioed gynnyg. Yr arferiad sydd wedi ffynnu yn gyffredin yw gadael i goed gymeryd eu siawns am dyfu lle y tyfent o honynt eu hunain; neu, a defnyddio geiriau hen Ysgotwr, y rhai a grybwyllir gan Dr. Livingstone, "lle y gosododd y Creawdwr ei hun hwynt ar y cyntaf." Pan oedd y Dr. yn llanc ieuanc yn dechreu astudio daeareg, synnid a blinid ef yn fawr gan y fossils y deuai o hyd iddynt mewn cerrig a chreigiau, a gofynnodd i hen wr o gymydog pa fodd y daethant yno. "Machgen anwyl i," atebai'r hen wr yn dra difrifol, "paid a ffwdanu dy ben ynghylch y fath gwestiynau; Duw ei hun a'u gosododd yna ar y dechreu." Felly, hyd yn ddiweddar, y rhannau o'r sir hon lle y tyfai coed oeddynt y mannau lle y gosodasai'r Creadwr hwynt ar y cyntaf. Mae diwygiad yn hyn, a diwygiad mawr; a gobeithio, ar ragor nag un cyfrif, mai rhagddo yr a.

Mae y diffyg hwn wedi bod yn achlysur i ddosbarth o wasanaeth-ddynion, nas gŵyr llawer