Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd

WRTH gasglu cyfrol o waith Gwilym Marles, yr wyf yn gadael o'r neilldu bethau pwysicaf ei fywyd, sef crefydd a gwleidyddiaeth. Ymdrechodd ymdrech deg dros oleuni a rhyddid,

"And from the pulpit zealously maintained The cause of Christ and civil liberty As one, and moving to one glorious end."

Yn ei fywydd hawddgar a phrudd, canodd aml gân, a darluniodd lawer golygfa ym more oes. Casgliad o'r rhai hynny,—ambell gipdrem ar hen Eden mebyd drwy ystormydd bywyd,—ydyw y gyfrol hon.

Ganwyd William Thomas (Gwilym Marles) yn Glan Rhyd y Gwiail, ar lan afon Cothi, ym mhlwy Llanybydder, rhwng pentrefydd Brechfa ac Aber Gorlech, sir Gaerfyrddin, yn 1834. Mab y Gelli Grin, ger Brechfa, oedd William Thomas, ei dad; ceir darluniad ohono yn "Pa fanteision gawsoch cbhwi?" Un o deulu Llwyn Celyn oedd Ann Jones, ei fam,—geneth ddeallus a phrydferth, briododd yn ddeunaw oed. Dywedir yn hunangofiant y Parch. Evan Lewis, Brynberian, wrth son am yr ymdrech ddysg yn ysgol Abergorlech,— "Mae yn gof gennyf mai merch Ysger Onnen oedd y dynnaf i mi, sef mam y diweddar Gwilym Marles.' Mabwysiadwyd Gwilym gan fodryb, chwaer ei dad; yr oedd ei gŵr yn ddiacon gyda'r Anibynwyr yng Ngwernogle. Cartref crefyddol oedd cartref mebyd Gwilym Maries a'i wyneb at Haul Cyfiawnder. Ar y Beibl yr oedd myfyrdod y teulu, a thrwythwyd meddwl y