Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bachgen deallgar yn ei ysbryd. Yr Ysgol Sul oedd ei hoff gyrchfan, ar fywyd yr Iesu yr oedd ei feddwl. Dan bren yn y maes, ar lan afon, ymgymunai a'i Dduw uwchben ei Feibl am oriau. "Llawer tro y gweddiais yn yr hen go glau cysegredig, a than y derw urddasol o gylch fy nghartref, ac yr oeddwn yn teimlo y pryd hwnnw a chredaf yn awr i mi fwynhau cymundeb pur a melus yr Ysbryd mawr lawer gwaith. Ac os y glân ei law a'r pur ei galon, os y galon ddrylliog a'r ysbryd cystuddiedig yn crynu wrth ei air, sy gymeradwy gyda Duw, pa fodd nad oes gennyf sail dda i gasglu mai oddiwrtho Ef y deuai yr hyfrydwch a'r hedd a ddylifent i fy mynwes?"

Nid oedd bosibl cael gwell parotoad at ymdrech ei fywyd. Cyfarfyddodd, yn yr ysgol ac yn y coleg, fechgyn yn dod o gartrefi mwy urddasol a llawnach o lyfrau na'i gartref gwledig ef; ond yr oedd yntau wedi ei fagu mewn lle yr oedd Natur ar ei harddaf, a Duw yn ymyl. "Talk of courtly manners," meddai rhywun, "the Christian lives in a Court."

Aeth i ysgol Ffrwd y Fâl, at Dr. William Davies; oddiyno, ym Mehefin, 1852, i Athrofa Bresbyteraidd Caerfyrddin. Dyddiau llawn oedd dyddiau'r coleg,—yr ymdrechi ennill y blaen, y llyfrgell gyfoethog, y chwalu a'r chwilio ar hen dybiau, yr anobaith a'r goleuni. Yn 1856 enillodd ysgoloriaeth Dr. Williams, ac aeth i Brifysgol Glasgow. Graddiodd yn anrhydeddus yno; ac yn 1860 ymsefydlodd yn fugail ar hen eglwysi Undodol Dafis Castell Hywel, sef Llwyn Rhyd Owen a Bwlch y Fadfa. Daeth ei fywyd yn llawn o waith ar unwaith.