Tudalen:Gwaith Gwilym Marles.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd wedi ei eni'n athraw. Agorodd ysgol yn Llandysul, ac enillodd serch a pharch ei ddisgyblion fel nad oedd eisiau gwialen na cherydd. Yr oedd un o'i ddisgyblion, James Lloyd wrth ei enw, yn gyd-efrydydd â mi yn Aberystwyth; a chofiaf yn dda fel yr ymylai ei barch i'w hen athraw bron ar addoliad. Bu'n athraw i Islwyn hefyd, yn 1858.

Yr oedd yn llenor bron o'i febyd. Mae ei iaith yn seml gyfoethog, ei deimlad yn ddwys a thyner. Ysgrifennodd lawer i gyfnodolion yr oes, cyhoeddodd gyfrol o brydyddiaeth cyn gadael Glasgow, a golygodd yr Athraw o Medi, 1865. i Awst, 1867.

Ymdaflodd i wleidyddiaeth â holl ynni tanbaid ei wladgarwch ysol. Cyfnod cyffrous oedd hwnnw, rhwng Ail Ddeddf Rhyddfreiniad y Bobl yn 1867 a'r Drydedd. Dyna ddyddiau yr ymdrech chwerw rhwng y tenant a'r meistr tir yng Nghymru, yr ymdrech roddodd fod i Ddeddf y Tugel a Deddf y Bwrdd Ysgol. Arweiniwyd Gwilym Marles gan ei gariad at y werin i fan poethaf yr ymladd. Ac o hynny y cododd profedigaeth fawr ei fywyd; Hydref 29, 1876, trowd ef a'i gynulleidfa o hen gapel Llwyn Rhyd Owen. Ym mynwent y capel hwnnw, erbyn hynny, gorweddai gwraig ei ieuenctyd a'i eneth fach. Clywodd Cymru lais clir y gweinidog dewr, Yr ydys wedi ein gwawdio mai pobl dlodion a dinod ydym. Poed felly. Nid ydym ni, er hynny, yn foddlawn mesur mawredd ac anrhydedd wrth gyfoeth na gwaedoliaeth, na dynol urddas, oni fydd pethau ereill yn cyfateb. Mawr mewn gwirionedd fydd pob cynulleidfa,