addef fod y fangre lle rwy'n awr yn preswylio yn lle mwy anghyfleus i ymarfer fel hon, na phe buaswn yn cartrefu mewn gwlad ddistaw, allan o swn a chythryfwl y byd. Eithr wrth geisio dwyn ymbell ennyd, pan fyddwn frith-segur, i fyned ar ben fy hun; trwy help a chynnorthwy lly frau hen Athrawon duwiol o Eglwys Loegr; ac ychydig o sulwiadau pellach oedd yn rhedeg yn fy mhen fy hun; amcenais osod hyn o ymadroddion gwael ynghyd, megis y maent yn awr yn dyfod i'r goleuni; gan obeithio na bydd iddynt brifio yn llwyr anheilwng o dderbynniad ym mhlith fy Nghydwladwyr. Rwyn 'n cyffesu mai peth yn erbyn fy natur wyledd i yn fawr oedd mentro gosod fy hun ar led y wlad yn y fath fodd a hyn: Eithr wrth ystyr nad yw'r Arglwydd yn bodloni i neb guddio y dalent a dderbynner ganddo ef oddi tan y ddaear, minnau a dybiais yn ddledus arnaf weithio tra mae hi yn ddydd; y mae'r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. Lle y gwelir byrdra a diffyg yn y myfyrdodau hyn, geill y darllennydd ystyriaethol helaethu arnynt yn ol ei feddwl ei hun.
Ac am y beiau a ddiangasant ynddo, law'r ysgrifennydd neu'r Argraffwr. deusyfir ar bob Cymro tyner gyd ymddwyn a'r cyfan, yn oreu ag y medro. Gan nad oedd y Printiwr yn deall Cymraeg mewn rhai manneu y gwelir y naill lythyren wedi ei gosod yn lle'r llall; weithiau un yn niffyg, tro arall yn ormod: Eithr synniad y gair neu ymmadrodd a ddengys ir darllennydd hawddgar, beth a ddylai neu ni ddylai fod yn y cyfryw leoedd. Ni bydd neb llyfn heb ei anaf.
Garedigion, da y boch!
Yr eiddoch, H. J.