Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MYFYRDODAU YN Y GWANWYN.

WELE'R gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiod, ac a aeth ymmaith; gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar i ganu: y dydd sydd beunydd yn ymestyn, a'r haul yn mynych ymddangos allan o babell y ffurfafen, ac nid ymgudd dim oddiwrth ei wrês ef.

Y ddaear, oedd galed, oerllyd ac afrywiog amser gauaf, yn awr a dry yn feddal a thirion, trwy dynerwch yr hin, a chynnhesrwydd yr haul: Wele'r goedfron yn glasu a'r gerddi'n blodeuo, a'r holl greadigaeth yn adnewyddu, er dechreuad y tymmor hyfryd hwn.

Gwel yma, o fy enaid! wrthddrychau ac arwyddion eglur yn Llyfr nattur, o gyflwr a moddau dyn cadwedig, yn amser ei ail greadigaeth o newydd yng Nghrist