Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Iesu yr hwn cyn hynny o bryd dedwyddol, sydd wrth ei nattur, yn "farw mewn camweddau a phechodau" ai galon yn galed a diedifeiriol, megis y ddaear ganol rhewynt, heb naws meddalwch ynddi: eithr pan gofio efe ei ffyrdd gynt, a'r holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasei ynddynt yna y galara ac y tawdd yn ei anwireddau ac yn ol hyn y cyfyd Haul Cyfiawnder gan dywynnu ar ei enaid a chynnhesu ei galon, iw pharottoi i dderbyn had gair duw, megis y mae cynnhesrwydd neu wrês yr haul yn sychu'r ddaear fis Mawrth, iw gwneuthur yn gymmwys i dderbyn yr hâd a hauir ynddi.

Ffarwel, Ned Pugh,

Can croeso i'r ddaear liwgar le,
Yn nyddie' ei hadnewyddiad;
Can diolch Arglwydd am nessau,
O gynnes olau'r gennad:
Yr adar bach oedd gynt un brudd,
Drwy'r dyffryn sydd yn deffro;
A'r byd a'i sylwedd bur-deg sail,
Sydd wedi ail newidio:

Duw Tad o'r uchelne', o newydd gwna ninne',
I gael inni galonne', i redeg y siwrne',
A osodwyd o'n baene' cyn blino:
Down gyd a phob talar, i dderbyn dy ffafar,
Cyn mynd ein cyrph breugar, a'n hesgyrn ar wasgar,
I waelod y ddaear i dduo.

<br.