Y tymmor gwanwyn sydd gyffelyb i amser pob Cristion yn y byd yma, i ymbarottoi erbyn tragwyddoldeb; oblegid fel i mae hon yn adeg brysur gyd a'r hwsmon, pan fyddo'n flin arno wrth droi, hau, a llyfnu; cau a chloddio, a phob gorchwyl arall ar ei dir, angenrheidiol ei wneuthur erbyn yr haf. Fellu hefyd gyda'r Cristion yn oed ei bererindod ar y ddaear: dymma'r unig amser iddo lafurio am y bwyd ni dderfydd, eithr a bery i fywyd tragwyddol. ac i weithio allan ei iechydwriaeth ei hun trwy ofn a dychryn.
Os yr hwsmon a fydd ymarhôes i grynhoi ar ei dir erbyn Clammai, gan ei adael yn llanestr agored i'nifeiliaid ei sathru a'i bori; mae'n enbyd y bydd yn ei golled yn fawr o'r achos. Fellu hefyd y pechadur a ymdry yn ei bechod a'i anwiredd, a'i galon yn agored i bob trachwant ac ynfydrwydd bydol, nis torri llinyn ei einioes; O mewn pa berigl ofnadwy y mae hwnnw ynddo, o golli ei hun a chymmaint ag a fedd, yn dragywydd. Dedwydd y llafurwr sy'n fawr ei boen a'i ffwdan yn trin y ddaear, a fyddei mor ddiwyd a dygn, yn ymeulyd am iechydwriaeth iw enaid; yna 'mhen ennyd bach, dim mwy ymhela a phridd a cherrig y