Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Blode eich dyddie iach diddan—yn ffromm
Na' ffrymwch i sattan;
Byddwch demleu goleulan,
Syberwyd glir i'r Ysbryd Glan.

AM ARDDU.

Edifeirwch a thristwch Duwiol am bechod, a osodir allan yn yr ysgrythur, tan rith arddu neu droi 'r ddaear; canys fel y mae'r aradr yn agoryd y tir, ac yn troi 'r tu pridd i fynu ir gwyneb, fel y gellir gweled pa fath dir a fydd ; ac hefyd yn dadwreiddio yr holl betheu diffeth a fo 'n tyfu ynddo: Fellu y mae gwir argyhoeddiad yn rhwygo ac yn egor calon pechadur, gan ddatguddio yr hyn a fo ynddi; ac hefyd yn dadwreiddio pob meluschwanteu a gwyniau llygredig, oedd yno yn tyfu wrth eu nattur gynt.

Ni a wyddom fod y ddaear yn gofyn ei brynaru cyn y bo cymmwys i dderbyn had Fellu yn wir y mae calon dyn, cyn y tyccio had gair Duw ynddi, a ffrwytho allan o honi mewn buchedd ac ymarweddiad. Braennerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain. Nyni a gyfrifem hwnnw yn hwsmon pen-ffol, yr hwn a haue ei hâd ar wyneb tir, heb i aradr erioed fyned trwyddo: gan ddisgwyl arno ddwyn enwd yr un môdd a phe buaseu yn