ei aredig fel yr oedd yn gofyn, cyn rhoi'r hâd i lawr: eithr llawer mwy ofer i ni feddwl y dichon yr had ysprydol soddi i mewn a ffrwytho allan o galon dyn; yr hon wrth nattur sydd megis rhos-dir gwyllt ac oeredd heb erioed ei arddu; oddieithr i aradr gair Duw yn gyntaf fyned trwyddi iw brynaru ai dryllio am bechod. Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb.
Gwaith trwm a blinderog yw llafurio 'r ddaear, ac sydd hefyd yn gofyn peth gofal yn ei gylch; canys os yr arddwr a edrych o'i ôl nê oi flaen, geill yr aradr yn fuan fynd am ormod neu ry fâch, neu redeg allan or ddaear i beri malciau, y rhai a gyst iddo eu torri drachefn neu fod yn y golled; hefyd i wneuthur y gwys yn anwastad, fel ac i bo yn anhaws dal yr aradr arni, ac a fydd raid iddo boeni peth ychwaneg yn ei chylch cyn y dêl yn union megis o'r blaen, a hynny o eisieu edrych yn ddigon manwl at ei waith. Rhaid i'r Cristion fod mewn llafur a lludded yn gwrando, darllen, gweddio, a gwylio yn fynych, a bod yn ofalus iw gadw ei hun mewn tymmer dduwiol; eithr os efe a ymollwng i fyned ar ol petheu eraill yn fwy na phetheu Duw; a dechrau oeri ei serch-