Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan fo dy gorph drwy deg a hagar,
Yn poeni wrth lafurio'r ddaear.

Cofia fod dy galon oerddu
Yn gynta yn gofyn ei brynaru,
Cyn y tyfo o honi un weithraid,
Er daioni i dy enaid.

Y diog ddyn nid ardd y gaua,
Am hynny 'r eiff ef i gardotta;
Ond gefn cynhauaf ofer gwaeddi,
Arglwydd, Arglwydd, agor inni.

O danfon dy air dwfn Duw Ion—eglur,
Drwy oglawdd fy nghalon;
Brynara brenin A'ron,
Brynniau 'mrest briw yn y 'mron.

Braenu' wnes ein brenin ni—mewn pechod,
Pa och a fydd immi!
Fyth, oni ddychwelaf fi
Attad, er moliant itti.

YNGHYLCH HAU.

Hau yn yr ysgrythur a gymmerir lawer ffordd, ac sydd yn arwyddo amryw betheu neulltuol; megis yn gyntaf, am wneuthur elusen, neu rannu ym mysg tlodion. Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin, a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fêd hefyd yn helaeth.

Yn ail, pregethu'r Efengyl; canys fel y mae'r hauwr yn tanu'r hâd ar lêd y