maes, fellu y mae'r Gweinidog yn tanu gair Duw ym mhlith y gynnulleidfa. Yr hauwr a aeth allan i hau ei hâd. Fe adroddir am un Mr. Philip Henry, Gweinidog Gair Duw, yn lle a elwir Broad Oaks. yng Nghent. Yn ôl ei droi allan o'r Eglwys yn amser dychweliad y Brenin Charles yr eilfed; ei arfer oedd y rywan ac yn y man, pregethu ym mysg e'i gymdogion: ac un tro wrth ddychwelyd adreu o'i swydd, digwyddodd iddo gyfarfod a'r gweinidog oedd yn perthyn i'r Eglwys; ac ebe efe wrtho; "Syr, mi gymmerais rydddid i danu lloned llaw o hâd yn eich maes chwi." "A ddarfu ichwi felly attebodd y gwr-da arall, yr Arglwydd a roddo iddo ei fendith! y mae digon o waith inni bob un."
Yn drydydd, claddu'r meirw, canys cyrph dynion ydynt megis hadeu yn y ddaear, hwy a godant i fynu o'r llwch drachef. Yr egin ieuaingc, gwelwn hawddgared eu gwedd, pan font newydd ymddangos allan o'r ddaear; tebyg i hyn a fydd cyrph y Seintieu, pan ddeuant allan o'u beddau, ac y cynnullir hwynt eithaf y nef.
Yn bedwerydd, edifeiriol ddagrau, y rhai syd yn llifeirio oddiwrth galon ddych-