Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y fall o honi allan—tro'n Iesu,
Teyrnasa dy hunan;
Torrer ei ben a'th Tarian,
Ninneu tyn o nen y tan.

LLYFNU.

Oni bae i'r hwsmon lyfnu ei dir ar ol ei hau, ei holl boen a yddei yn ofer; ai gost i gyd ar goll; canys os yr hâd a adewir ar wyneb y tir, heb i'r og iw soddi ir pridd; ond odid fe ddaw adar ar ei draws iw gippio ymaith a'i ddifetha, cyn iddo erioed wreiddio a settlo yn y ddaear. Fellu ninneu hefyd yn ôl hau gair Duw yn ein plith, oni bydd i'r Yspryd Glan, ynghyd a'n dwys ystyriaeth ninneu am dano e soddi i mewn i'n calonneu, buan y daw 'r gelyn diafol ac a'i dûg ymaith o honom. rhag inni gredu a bod yn gadwedig. Ac mae 'n enbyd mai dymma 'r achos sy 'n peri ei fod yn tyccio cyn lleied ir rhan fwyaf o ddynion: Llawer a gymmerant eu Bibl yn eu llaw, neu riw lyfr da arall, ac a ddarllennant ynddynt dros ychydig : hwy a gyrchant i'r llanneu i wrando pregethau, ac yn ol i hynny, fynd trosawdd, meddyliant fod eu holl dasg ar ben, a'u dyledswydd wedi darfod, pan na'd yw, yn wir, nês i hynny, nac yw gwaith y llafur-