wr, yn ol tanu'r hâd ar wyneb tir: y peth angenrheittiaf fydd eto yn ol; sef, ôg i fynd unwaith drosto, iw soddi i mewn ir ddaear, os disgwylir am iddo wreiddio a ffrwytho i fynu drachefn, a derbyn cnwd oddiwrtho. Fellu angenrhaid i ninneu, nid yn unig wrando, darllen, chwiliaw, a dysgu gair Duw, ond hefyd o mewn ei fwynhau, fel y cofleidiom ac yr ymgynhaliom yn wastadol wrth fendigaid obaith y fuchedd dragwyddol.
Y sawl a hauo ei faes, cyn ffynnu,
Yn ol ei droi rhaid iddo ei lyfnu;
Oni te mae lle iddo ddisgwyl,
Fynd yn ofer ei holl orchwyl.
Yr og ffraeth a'i hamal ffrewyll,
Sydd yn gwneud y cwysi'n gandryll;
Hefyd yn malurio 'r cloggiau,
Sy'n rhwystro'r egin yn ei blaenau
Y galon newydd ei brynaru
Gan edifeirwch, sydd er hynny,
Yn gofyn ei llyfnhau ymhellach,
Fel y dygo ffrwythau amlach.
'Does geffyl cul yn c'alyn—ymeulyd,
Na mul yn y dyffryn;
'Does un ych dwys iawn achwyn,
I'r og, mwy diog na dyn.