Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Efe sy'n gwisgo'r porfeydd rhywiog a. meillion, i ddigoni 'r buchod blithion, fel y dylifo 'i pyrsau laeth i'n maethu, ac enllyn i'n cefnogi. Y defaid gwynion hefyd yn awr a gant seibiant a llonyddwch gan oerfel a dryccin, i gymeryd eu pleser hyd ochr y llechweddi a phennau 'r moelydd.

Rhy wellt ir buchod blithion glan
Pur fuan mewn porfeydd,
Ac ir defaid lawer cant
Eu mwyniant yn y mynydd.

Draw y gwelir y dolydd gwyrddlas yn gorwedd gan guwd, a'r meusydd yn cau i fynu o yd, i lenwi ein hysguboriau ag ystôr, erbyn tymmhestloedd gauaf a llymder gwanwyn. O! na bae i ddynion fellu drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod.

A'r Fflene.

Duw nefol freiniol fri,
Mor fawr yw d'wrthiau di,
Trwy degwch sydd, yn danfon dydd,
Y newydd haf i ni:
Dy haul a d'wna ar hyd,
Y ddaear glauar glyd;"
Tywellti wlith i beri blith,
A bendith mawr ir byd :
Anfoni fwyn, gantorion fwyn,
Sy'n dwyn newyddion da,
I'r ddaear brudd, yn esgor sydd
Ar ffrwythdd hirddydd ha'.