Rhoi mawl ar goedd, ag uchel floedd,
I ti wna 'r glynnoedd glan;
Pob brynn pob pant, pob maes a nant,
D 'ogoniant di a gan.
Mor hyfryd i mae 'r goedfron luosog yn edrych, y gelltydd yn disgleirio, a'r gweunydd yn hawddgar eu gwedd:
Gweunydd a gelltydd gwylltion,
A dan fawl d' enw fy Ion.
Y tymmor haf a ellir ei gyffelybu i wynfyd y nefoedd; ond bôd un o nattur ddarfodedig, a'r llall o dragwwyddol barhâd. Yr hâf sydd dymmor têg a thawel, a'r holl fyd ac sy ynddo yn hyfryd ei wêdd ai olwg, rhagor amser gauaf. Etto nid yw mewn gwirionedd ond megis anialwch iw gyffelybu i deyrnas nefoedd, yr hon a feddianna 'r holl rai gwynfydedig ynghyd, ar ôl dydd y farn ddiweddaf. Yno y cant weled Pren y bywyd sy'n dwyn deuddeg rhyw ffrwyth bob mis, gan ymborth ar ei ddewisol ffrwythau ef, ac eistedd tan ei gysgod gyd ac hyfrydwch mawr. Yno y cant weled afonydd ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.
Cyffelyb ydyw'r nef i Gana'n
Lle roedd llaeth a mel nid bychan;
Gyd a Christ mae digonolrhwydd,
O bob dedwyddwch yn dragywydd.