Edrychwn mor loyw yw dyfroedd yr afonydd amser hâf; cyffelyb i hyn yw afonydd pur o ddwfr y bywyd disglair fel grissial, sy'n dyfod allan o orseddfaingc Duw a'r Oen, i lawenhau dinas Dduw.
Gwelwch foreuddydd hâf, â pha wêdd ardderchog yr ymddengys yr haul allan ô 'stafelloedd y dwyrain, dan wenu ar y byd, a llenni aur o'i amgylch, a'r cymhylau 'n ffoi ymaith o'i wydd. Diau mai cyffelyb i hyn a fydd ymddanghosiad Mab y dyn allan o gymhylau 'r nêf, gyd â'i Angylion santedd, mewn nerth a gogoniant mawr, a phob llygad a'i gwêl: Yna 'r annuwiolion ni safant o'i flaen, ond hwy a alarant o'i blegid; eithr efe a wena ar ei etholedigion, ac a ddenfyn ei Angylion iw casglu hwynt ynghyd o'r pedwar gwynt, ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr asswy.
Pan welom haul ar godiad,
Meddyliwn bawb yn wastad,
Am ddyfodiad Crist i'r farn,
Yr hwn sydd gadarn geidwad.
Deliwch sulw ar godiad yr haul, fel yr adfywia ffrwythau 'r ddaear, a'r blodau a godant eu pennau, ac a agorant eu llygaid wrth ddisglairdeb ei wedd; a chantorion y twyni hefyd a ddihunant i blethu mawl;