lleuad a sêr a'u goleuni, a'r cymmhylau a'u symmudiad, yna ti a gei wybod pa beth yw gogoniant y nef, ac nid cyn hynny, oddieithr i ti ddyfod iw deimlo, megis ag yr wyf fi yr awron!
Ar Kings Ffarwel.
Oh! ddedwyddwch y rhai duwiol,
Gwedi sorriant byd amserol;
Pan fo eraill mewn poen farwol,
Draw yn gwaeddi yn dragwyddol!
Hwy gant wisgo aur goronau,
Ac eistau ar ei gorsedd feinciau,
Ger bron yr Oen, a fu dan boen,
I'w dwyn o ffroen y ffwrnas;
I roi iddynt freintiau addas,
Drwy gadernid yn ei deyrnas.
Ni ddaw yno yn agos attynt,
Ddim i anhwylio eu nefol helynt;
Trallode a llid a gilia i gyd,
Ni ddaw y pryd hynny,
Mo'r hen flynydde i'w haflonyddu
Neu ofer drachwant fwy i'mdrechu.
Dyna'r fan lle cant orphwyso,
A byth santedd ymgofleidio:
Yno yr edwyn yn ddiwradwydd,
Bobl un galon bawb eu gilydd:
Yno y byddant yn cyd rodio,
Mewn gwisg glaerwen yn disgleirio;
A chan bob un wrth ei glun,
Aur delyn i dalu,
Mawl i'r brenin, am ei brynu,
A'i ddwyn i'w fwyniant yno i fynu,