I b'le rwyd ti 'n myned; a geir mo dy weled,
Yn dywad a lloned i'n llwyni.
HAF.
Fy Awdwr Jehofa, a dd'wedodd yn gynta,
Pryd haf a gaua a'i orphwysfa ni phaid;
Parod wyf finne', i ufyddhau 'i eirie',
Bydd dithe' y'r un donnie' o ran d'enaid.
DYN.
Diferaist dy fraster, yng Nghymru ac yn Llo'eger,
A rhoist inni amser pur dyner bob dydd;
I wneud ein gorchwyl-waith; pan elych di ymaith,
Bydd eilwaith waeth hiraeth o'th herwydd.
HAF.
Fe dderfydd y flwyddyn, fel llwydo dilledyn;
Holl harddwch haf twymyn sydd, blisgyn o'th blaen;
Nid ydwyf fi ond cysgod, o'r hafddydd sydd uchod.
Mae yno breswylfod dda 'i sylfaen.
CYFLWR NIFEILIAID.
Y'r enwog dâd parchedig, D. Martin Luther sy 'n adrodd am ddau Gardinal, (sef prif lywodraethwyr Eglwys Rhufain, tan y Pab,) oeddynt ar u siwrnai i gymmanfa Constance; digwyddodd ar y ffordd iddynt glywed llais dyn yn wylo mewn.