'n dywedyd, fod pob creadur yn cyd-ochneidio, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hwn; dan obaith y rhyddheir ef o gaethiewed llygredigaeth i rydd-id gogoniant plant Duw.
Duw a drefnodd i'r nifeilied,
Oes ferr a helynt galed;
A'r caledi hwn a syrthiodd
Arnynt, pechod dyn a'i tynnodd.
Gorfydd iddynt hwy mewn cornel,
Fod a'u penneu wrth y fuddel;
Pan fo dynion yn eu llawnder,
A'u traed yn rhodio mewn ehangder.
Wel dymma ffrwyth ein hannuwiolder,
Oni edifarhawn, daw'r amser,
Pan font hwy yn rhydd oddiwrtho,
A ninneu 'n rhwym ein traed a'n dwylo.
Pan ddaethost pechod syndod sail—i'r byd,
Ni 'rbedodd dy wiail,
Anafu dyn a nifail,
Na Mab Duw, ni bu dy ail.
GOFAL AM NIFEILIAID.
Nifeiliaid oedd cyfoeth a chynhaliaeth pennaf y Patriarchaid a'r hynafgwyr yn yr oesoedd cyntaf: A'i olud oedd saith mil o gamelod, a phum cant o asynnod. Y stamp neu 'r argraff ar eu harian yn yr amser hynny, oedd llun ych, neu ddafad.