Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O na 'styriau 'r cyfoethogion,
Pwy a drefnodd iddynt foddion
Iw mwynhau, ac i ba ddiben,
Y rhofles Duw hwynt ar y dd'iaren.

Dedwydd ynt os gwnant y gorau,
Yn eu dydd, o'r holl dalentau,
'Mddiriedwyd yn eu dwylo am danynt,
Ac onite, gwell fyddeu hebddynt.

Ofer fydd ar fyrr feddu—y byd,
A bod yn llawn gallu:
Gwael yw llysoedd, gwell Iesu,
I ddyn, na thyddyn na thy.


GWLITH.

Y Gwlith yw'r tarth sy'n codi o'r ddaear y dydd gan wres y'r haul, ac yn nhawelwch y nos, yn disgyn i lawr drachefn. Nid eill neb ei ganfod, na gwybod pan fo yn disgyn ar y gwelltglas: yr Arglwydd sydd yn ei ordeinio pan welo efe yn oreu; trwy ei wybodaeth ef y defnynna yr wybrennau wlith.

Y gwlith a gyffelybir yn gyntaf, i Grist, megis ac y mae yn ei arwyddocau ef, yn y chwechfed o Lyfr Barnwyr, a'r rhan olaf. Wrth y cnu gwlan y mae i ni ddeall, am Fair forwyn; a'r gwlith am Ghrist: canys fel y daeth y gwlith allan o'r cnu, ag y bu wedi hynny ar yr holl ddaear; Fellu yn ol ei eni ef o Fair, a danodd wlith ei ras, a'i Efengyl trwy'r holl fyd.