Gwirwyd y dudalen hon
MYFYRDODAU
AMSER CYNHAEAF.
Y TYMMOR cynhauaf, yn ôl tyb a thystiolaeth llawer o'r doethion, yw'r hynod amser hwnnw ar y flwyddyn, ym mha un y creawdd Duw'r byd; sef ar ddechrau 'r mis a elwid gan yr Iuddewon, Tisri, neu Ethanim; dechreuad pa un oedd ynghylch canol y mis a elwir gyd â ni, Medi. Ac mae'n debygol na wel neb unrhyw achos, i lwyr ymwrthod yn brysur, a'r ddychymmyg hon; oblegid ni allwn ddeall, fod holl ffrwythau'r prenniau yngardd Eden yn eu llawn addfedwch, pan y dywedir fod i Adda gael ei ddewis iw ymborth arnynt, oddieithr un. Fellu diammau ir Arglwydd greu'r holl fyd ar y cyntaf, mewn llawnder a pherffeithrwydd o bob peth, megis ac y gwelir ef yn awr amser cynhauaf: Yn yr hwn amser, y dangosir ei anfeidrol allu, doeth-