Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ineb, a daioni ei fawredd, yn dra eglur i bob dyn. Dyma 'r pryd y mae efe yn gwneuthur gwledd i'r holl fyd, gan hilio ei fwrdd a danteithion rhagorol o bob math, i ddiwallu, sirio, a llonni ei greaduriaid, y rhai sy 'n disgwyl wrtho am ei bwyd yn ei bryd. Dymma'r pryd y dygir i berffeithrwydd a'i llawn-dw, yr hyn a fu 'r ddaear yn esgor arnynt ddyddiau hâf. Gwelir y gweirgloddiau, meusydd, gerddi, a'r perllannoedd, megis yn ymryson a'u gilydd, pa un a gaffo ddwyn yr anrheg gyntaf o'i blaenffrwyth iw perchennogion. Ona bae eu perchennogion mor ufudd a gofalus, am ddwyn ffrwythau buchedd dda, i berchennog neu feddiannydd mawr nefoedd a daiar! Yn awr y gwobrwya ac y tal ei feusydd i'r hwsmon dyfal, am ei boen yn eu gwrteithio au llafurio gefn y gwanwyn; a'r dolydd am ei ofal yn eu trin au cadw ddyddiau Clammai; a phob llysiau a ffrwythau per, yn barod i atteb y diben i ba un y crewyd hwynt.

Ar Charity Mistres.

Diolchwn iti Arglwydd
Am ffrwythydd ffri, o bob rhiw ri,
A ddug y ddaear beunydd
Yn ufudd iawn i ni: