Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ymmul cael eu cynhafa a'u torri i lawr ir bedd. Meddyliwch gan hynny am danoch eich hunain o eneidiau oedrannus, pan weloch Wair yn cochi, neu Yd yn gwynnu, a dail y Coed yn melynu; gwybyddwch nad oes i chwi aros yn eich unfan yn hir mwy na nhwythau, pan ddeloch ir nod hwnnw.

Y gwair a'r yd, oedd wedi pen ychydig yn irlas ac yn llawn nodd, yn awr a welir yn dechrau diflannu, a'i ben yn gogwyddo ir ddaear, ac a dorrir ymaith ar fyrder. Hyn a eill ddwyn i'n cof, mor fethianllyd a darfodedig yw cyrph dynion; pob cnawd sydd wellt, a'r rhai ydynt yn awr yn gryfion ac iachus, a'i bronnau yn llawn llaeth, ai hesgyrn yn iraidd gan fer, buan y diflannant ymmaith; eu gwrid a dry yn llwydni, a'u nerth yn wendid, a henaint a grymma eu pennau i lawr megis yd, pan fo'n llawn addfed; a hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a'r pryfed a'u gorchguddia hwynt.

Ar fesur Consumption.

O Arglwydd beth yw dyn
Pan 'drychyt ar ei lun,
Yr hwn nid yw ei hun
Ond megis gwelltyn gwann: