Rhagor tywydd trwm heb foddau,
I waredu ei wair a'i ydau.
Rhoddiad mawr i ninne os gwelwn,
Iw cael rhydd-did a Chommissiwn,
I foliannu Duw y nefoedd,
Yn y dirgel ac ar gyhoedd.
Fe orfyddau ir Protestaniaid;
Gyfwrdd gynt heb neb i'w gwelaid;
Ninnau allwn 'flaen yr holl-wlad,
Ei addoli ef yn wastad.
Gorfod gwylio, a chladdu eu gilydd,
Hyd y nos ar gefn y meusydd;
Aros yno tan y borau,
Uwch ben y bedd yn canu hymnau.
Gwragedd a morwynion oeddynt,
Yn dioddeu serrio eu bronne oddiwrthynt;
Dioddeu colli gwaed eu calon,
Am eu Crefydd a'u Proffession.
Oni chymrwn ninnau siampal
I wasnaethu Duw yn ddyfal;
Y Merthyron hyn er dychryn,
A godant Ddydd y farn i'n herbyn.
Y cynhauaf a gyffelybir i ddiwedd y byd; canys fel ac y mae ffrwythau 'r ddaear y pryd hynny yn eu haddfedwch, yn gymmwys iw torri i lawr, ai casglu or maes i mewn: Fellu yn niwedd y byd, holl drigolion y ddaear a fyddant yn addfed