Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o d'wysennau ffrwythlawn yn pwyso i'r ddaear; heddyw heb hanes ond am fonion soflydd sychlyd, yn ddigon garw eu gwedd. Trachefn, edrychwn ar y dolydd a'r porfeydd rhywiog, pa rhagoriaeth sydd rhyngddynt yn y dyddiau hyn, a dyddiau Gwyl-Ifan. Codwn ein golygon ar y goedwig, ac wele 'r fath anluosogrwydd sydd yno; y coedydd wedi eu dinoethi, a'u dail wedi crino ymaith. Fellu am bob gwychder a moethau daiarol: y maent fel hun: y boreu y maent fel llyseuyn a newidir. Y boreu y blodeua ac y tyf; pryd-nawn y torrir ef ymmaith ac y gwywa. Awn ir gerddi, ac wele yno bob peth ar ddarfod yn ei ôl ir ddaear. Cymmerwn daith ir berllan, yno y ceir afalau bron-gochion, oedd gynt yn uchel eu lle ar frig y pren, yn awr yn pydru hyd wyneb y ddaear, a'r eirin yr un modd.

Wel cofiwch chwithe jeungtyd ffol,
Daw'r Angeu ich nol ar fyrder;
Ni phrissia am nerth na glendid glwys
Pan ddelo'i gymmwys amser.

Llawer heddyw ag uchel drych
Yn ddigon gwych a'mddygant;
Y foru 'r tecca a'r gwycha eu gwedd
Yn llawr y bedd y byddant.