gilydd y fath gyfarfod siomgar a hwn. Dymma fel y mae gyda dynion y byd, sydd a'u calonnau yn berwi o gynfigen y naill ir llall. O ba le (medd yr Apostol) y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith? Onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau, y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau. Wrth hyn ni a welwn fod dyn yn un reyfel drosto ei hun; nid rhyfedd gan hynny iddo fod mewn rhyfel ag eraill a'r rhyfel hwn ni ostegir fyth gan neb ond Duw hollalluog; and a gynnydda fwy fwy, i bob tragwyddoldeb. Eithr pan ddel yr Arglwydd a'i Ras nerthol, i wersyllu ar y galon, hi a gwymp i lawr wrth ei draed, fel Jericho o flaen Joshua; a phob gelyn ystyfnig oedd yn aros ynddi a dawdd: Yna y blaidd a dry yn oen, gan faddeu i eraill megis ag y maddeuwyd iddo ynteu gan yr Arglwydd.
Golwg erchyll Gristion gochel,
Gweled delw Duw 'n troi 'n gythrel;
Gweled dynion o'r un deunydd,
Yn ceisio gwneuthur brad eu gilydd.
Os metha'r gwyr ymladdgar llidiog
Gael digon ymma, byddont gefnog,
Y'mhen ychydig hwy gant firauo,
Oni bon nhw wedi blino.