MYFYRDODAU YN
Y GAEAF.
ER nad yw'r gauaf mor gynforddus i ddynion, a thymhorau eraill y flwyddyn; etto nid llai y dengys fawrhdi a gwrthiau Duw ac er bod y ddaear yr amser hynny yn hesp ac anffrwythlon, heb ddwyn ffrwythau a blodau, megis yn amser haf: etto gellir sugno llawer o bereidd-dra a meluster myfyrdodawl o honi, a bâr ir galon ffrwytho o fawl ir Creawdr, wrth ryfeddu am ei holl weithredoedd yn oed y tymmor hwn.
Wele'r gauaf wedi dyfod, ac yn dechreu tywallt ei ystormydd am ein pennau. Y ddaear fel gweddw alaethus, sydd yn gorwedd yn ei galarwisg, wedi ei diosg oi holl wychder ai thegwch gynt. Nid oes yn awr yn lle claiarwch twymyn iw thymheru, ond rhew caled, afrywiog yn llochesu yn ei mynwes: a'r eira megis cynfas wen, yn ymdanu drosti; fel na ad-