Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oddiwrth Iesu Grist, haul Cyfiawnder. Ei maint sydd beth llai na'r ddaear, ai phellder oddiwrthym ni, sydd dros bedwar-can-mil o filldiroedd. Pellder yr haul oddiwrth y ddaear, sydd ynghylch deg miliwn; a'i led o'r naill ochr i'r llall, yn wythgan-mil o filldiroedd. Y ser hefyd oblegid eu pelldra annychymmygol, sydd yn dangos i ni megis gwreichion; eithr i mae pob un o honynt yn fwy na'r ddaear; rhai gant o weithieu: a'r agosaf o honynt yn uwch filoedd o weithieu na'r haul: yn gymmaint ac y byddeu Ergyd. Cannon, er myned yn llym, ynghylch Saith-gan-mil o flwyddau, cyn cyrrhaeddyd yr agosaf o honynt. Mor fawr gan hynny yw yr hwn sydd, yn eu cynnal oll, trwy air ei nerth. Derchefwch eich llygaid i fynu, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a'i geilw hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder ei rym ef, ai gadarn allu, ni phalla un.

Rhyfedd rhyfedd Arglwydd Iesu,
Mor anfeidrol yw dy allau,
Sy'n cynnal pob-peth or dechreuad;
O leied wyddom ni am danad!

Gelwi'r ser er amled ydynt,
Wrth eu henwau bawb o honynt;