Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gostegau'r mor, pan glywe, a'i gynnwr
Unwaith eiriau ei wneuthurwr.

Arglwydd beth yw dyn it gofio.
Chwaith na meddwl fyth am dano:
Ond dyn a fynnit wedi'r cyfan,
Er iddo gostio i ti dy hunan.

Daliwn sulw ar ddyddiau byrrion y gauaf; tebyg ydynt i amser pob Cristion yn y byd presennol: canys y dydd nid yw y pryd hynny ond prin gwawrio, nis iddo ddechrau tywyllu yn ei ol. Fellu nid yw dyn ond megis gwneuthur ymddangosiad yn y byd; ac yn ddisymmwth efe a ddi- flanna ymaith o'r golwg, fel na welir ei wedd mwyach. Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau syd fel cysgod yn myned heibio. Ac fel y mae'r dydd yn arwyddo 'r bywyd trancedig hwn; fellu hefyd y mae 'r noson hir dymmhestlog sydd yn canlyn, yn arwyddo gwêdd a meithder tragwyddoldeb o drueni yn y byd a ddaw. Fe ddywedir fod rhai o'r Merthyron gynt, yn cael eu taflu allan o dai dros nos yn noeth lymmun i ganol yr oerfel; ac yn y bore cael eu llosgi â thân. Wele yr oedd y tormentau hyn yn dost, eithr nid cyffelyb ir hyn a deimla y rhai colledig, yn y Tophet diwaelod; Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na 'r tân yn diffodd.