Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar y Fedlau fawr.

Mae yn y gauaf ini gyweth,
Ddi ddistawrwydd o dda ystyrieth,
Sydd heleth iawn o hyd:
Ei ddyddiau byrrion a rydd arwyddion,
O helynt gwaeledd pob trigolion,
Tra bon yn mynd trwy'r byd.
Amser gauaf ymhob lle,
Yr haul sydd dene' ei d'wnniad:
Y seintiau yn amherffaith sydd,
Nis delo eu dydd diweddiadd,
N'ol hynny, cant d'wnnu,
Heb d'wllu fyth eu dydd:
Na machlud, haul hefyd,
Eu gwynfyd dan riw gudd.

Ond ti sy'n hoffi mewn drygioni,
Cofia 'r hir nos fawr ei hoerni,
Sy'n peri t'wllni ir tir.
Mae ganddi wyneb tragwyddoldeb,
O drueni iti yn atteb,
Mewn undeb mawr yn wir.
Er cael nos gauaf ser yn rhad,
Neu leuad i'th oleuo;
Nid oes yngwlad y Fagddu fru,
Ond caddug du i'th cuddio:
Gan hynny, gad bechu,
Heb oedi o'r neulltu'n awr;
Cei oleu cu heulwen,
Gwlad Gosen glud ei gwawr.


TALU RHENT.

Un o ofalon pennaf y Tenant drwy'r flwyddyn yw, edrych am foddion ac ym-