Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

barottoi erbyn diwrnod talu rhent: canys mae 'n gwybod y gelwir ef ymlaen y pryd hwnnw; ac oni bydd iddo ef ympirio, bydd mewn perigl o anfoddloni ei feistr ac wrth hynny, peri iddo ei daflu allan o'i dyddyn neu dy, a'i osod i erall ei well: ni thal iddo hel esgusodion, ac addaw talu yn ôl llaw pan allo, canys ei feistr ni erys wrtho.

Yn awr gwybydded pawb o honom mai tenantiaid ym i Dduw, yn preswylio ar y ddaear; a bod y dydd yn nesau pan elwir ni y mlaen i roddi cyfrif am y defnyddiau a wnaethom o'r holl dalentau a osodwyd yn ein llaw. Yna 'r hwn a fu ddiwyd a ffyddlon yn gwasanaethu Duw ar y ddaear; dywedir wrtho "Da wâs da a ffyddlon, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Eithr am y gwâs diog anufydd efe a ddywed, "Cymmerwch y talent oddiwrtho, a bwriwch allan y gwâs anfuddiol i'r tywyllwch eithaf."

Duw pa fodd y meiddia 'i 'mpirio,
Ger bron dy frawdle, heb fy ngwisgo,
A'th gyfiawnder, gwedi 'ngolchi,
Yn dy Waed oddiwrth fy mrynti.

Atteb droswyf f' Arglwydd Iesu,
Yn yr amser cyfyng hynny;
Onite mi wm y derfydd,
Am fy enaid yn dragywydd.