Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mae 'n ol i'r duwiol ar dirdedwyddwch,
Da iddo pan elwir:
A'r bydol ni arbedir,
O'r farn eiff, dan fwrnio'n wir!


CYFFELYBRWYDD HELYNT YR HWSMON, I
FYWYD Y GWIR GRISTION.

Gwaith hwsmon, fe addefir gan bawb, sydd boenus a lluddedig; a'i drafferthion a fyddant yn amlhau beunydd: pan ddarfyddo un gwaith, dyna 'r llall yn dywad ar ei gefn. Pob tymmor yn y flwyddyn sy'n dwyn llafur a thrafferthwch iddo gyd ag ef. Weithiau y ceir ef yn ei faes, dro arall yn ei ysgubor; ac y mhob un ond odid yn ddigon dygyn arno: weithiau 'n brysur yn trin ei 'nifeiliaid, hyd nad oes ganddo fawr o amser i edrych o'i gwmpas a segura, os ceisia efe gadw pob peth yn y fath drefn ag y bo yn gofyn. Dyn a a allan i'w waith, ac i'w orchwyl hyd yr hwyr. Trwy chwys dy wyneb y bwyttei fara, hyd pan ddychwelech, i'r ddaear.

Tebyg i hyn yw gyd a'r gwir Gristion: Ei ddyddiau sydd lawn helbul, a nosweithiau blinion a osodwyd iddo. Rhaid iddo fod yn wresog yn yr Yspryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd. Yn gweddio yn ddibaid, ac ym mhob dim rhoddi diolch.