Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Hugh Jones, Maesglasau.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bod yn ddiwyd i wneuthur ei alwedigaeth a'i etholedigaeth yn sicr.

Tan y Gyfraith, Duw sy'n gwahardd offrymmu y falwoden a'r asyn, a than yr Efengyl, ffiaidd ganddo broffeswyr diog a marwedd. Y cyfryw rai mae'n bygwth eu chwydu allan o'i enau. Gorchmynnir offrymmu'r arrennau a'r gwêr sydd arnynt, yn boeth offrwm ar yr allor, ger bron yr Arglwydd i ddangos ei fod ef yn caru gwirionedd oddimewn ac na lesa rhith dduwiol, a ffyrf allanol yn unig, mewn dyledswyddau Crefydd Gristnogawl.

Yr hwsmon, yn ol ei wisgo allan gan waith, oedran a gwendid corphorawl, a orfydd iddo lawer o ddyddiau roddi heibio'r gwaith, cyn rhoi i fynu yr yspryd: Eithr yr hên gristion a flodeua fel palmwydden, ac a gynnydda fel cedrwydden yn Libanus. Y rhai a blannwyd yn nhy'r Arglwydd, a flodeuant ynghynteddoedd ein Duw. Ffrwythant etto yn eu henaint; tirfion, ac iraidd fyddant.

YMDDIDDAN

Ar Falldod Dolgellau.

HWSMON.
Gwrando gristion, air gan hwsmon,
Sy'n llawn trallodion llwyr: