Bellach, f'enaid, aros yma,
Ymlonydda wrth ei draed:
Gwna dy drigfan hyfryd beunydd,
Tan daenelliad pur ei waed:
Ni all angau niweid iti.
Ni all uffern fawr na'r bedd,
Dorri'r cwlwm rhwng dy Briod,
A thydi aeth fyth mewn hedd.
Dyma'r UN rwy'n mentro arno,
Doed a ddelo i fy rhan;
Mae ei fraich yn gadarn ddigon,
I'm dwyn o bob dyfnderau i'r lann:
Ac er rhif y temtasiynau,
Sy'n ymglymmu am fy mhen;
Yn ei Enw mi a'i gorchfygaf,
Ac a'u maeddaf oll, Amen.
HYMN II.
Teimlad o wendid, a grym Gelynion yn dufewnol
ac yn allanol.
GWAN ac eiddil wyf i ymdrechu,
A galluoedd uffern fawr!
Myrdd o elynion sy'n hiraethu,
Beunydd am fy nghael i lawr:
Dal fi ARGLWYDD, &c.,
A dy allu bob rhyw awr.
Amlder gwallt fy mhen yw'r nifer,
Yn fy nghasâu yn llidiog sydd!
Aflwydd," meddant, "a lyn wrtho,
Fe ddaw iddo ef ryw ddydd":
ARGLWYDD cynnal, &c.,
Fi, fel na ddiffygio'm ffydd.