Os gogwyddaf ronyn lleiaf,
Ar un llaw o ffordd y nef;
Pan wêl fy ngelynion hynny,
"O ein gwynfyd," fydd eu llef:
Tywys beunydd, &c.,
Fi yn dy ddeheulaw gref.
Ac os rhaid im' etto fyned,
Trwy ryw orthrymderau mawr;
Croes o' mewn, a chroes oddi allan,
I'm cyfarfod ar y llawr:
Gwedd dy wyneb, &c.,
Gad i mi fwynhau bob awr.
Byw yw'r IESU i eiriol drosom,
A byw hefyd fydd ei saint;
Ni wêl byd, er amled ydyw,
Ei drigolion y fath fraint:
Pwy a welodd, &c.,
Neu wêl etto fyth ei maint!
Mi ro'm pwys a'm goglyd arno,
Nes y delo'r dydd i ben;
I fy enaid gael myn'd arno,
I breswylio uwch y nen:
Tra bwy yma, &c.,
Oddi ar fy yspryd difa'r llen!
HYMN III.
Deisyfiad am gyfarwyddyd a chymmorth
Dwyfol.
DYSG imi ARGLWYDD gerdded,
'R hyd uniawn lwybrau ffydd:
A gwna o bob cadwynau,
Fy nhraed yn hollol rydd: