Tudalen:Gwaith Huw Morus.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dere yn nes,
Lloer y lles,
Iredd aeres gynnes geinwen,
Ail i Elen, feindw, burwen,
Y gangen lawen liw;
Mae gen i
Fryd teg i ti,
Ffyddlon ffansi yleni olynol,
Dan fron freiniol, baunes weddol,
O raddol reiol ryw;
Gwen fel blode, donie dydd,
Anufudd yn dy nerth,
Pe baswn i
Yn coelio i ti,
Gwawr ddiwegi, yleni linon,
Aethe nghalon yn ysgyrion,
Moddion wirion werth;
Er llewyrch bryd Iliw aur i byd,
Er tebyg neb i ti,
Y galon fach
A gadwa'n iach,
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron,
Nid a tryinion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.


Rhois ffansi ffol
Heb droi'n ol,
Arnat, weddol ddon'ol ddynes,
Hyd y galles, liwdeg lodes,
O wres y fynwes fwyn;
Pe rhoiswn i
Serch rhy ffri,
Y fwynlan Bessi, fel y baswn !
I glefyd methiant mi a aethwn,
Rhy hwyr y ceisiwn gwyn;